Diwrnod Rhyngwladol y Menywod: Yr Athro Diana Wallace

English Research Professor Diana Wallace_3555.jpg



I nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod (8 Mawrth), mae’r Athro Diana Wallace, Cyd-gyfarwyddwr Canolfan Astudiaethau Rhywedd yng Nghymru PDC, yn dweud wrthym am ei maes ymchwil.


Dywedwch wrthym am eich ymchwil

English research - Here are Lovers, edited by Diana WallaceMae fy ymchwil yn bennaf ar ysgrifennu menywod. Daeth hynny allan o fy rhwystredigaeth pan wnes fy  BA yn y 1980au. Roedd tua 70-80% o’r testunau a astudiwyd gennym gan awduron gwrywaidd (er
gwaethaf y ffaith bod y mwyafrif o fyfyrwyr yn fenywod). Dechreuais i chwilio am lyfrau gan  fenwyod ac un diwrnod des o hyd i lyfr gwych Ellen Moers, Literary Women (cyhoeddwyd gyntaf yn  1976), yn y llyfrgell. Serendipedd pur! Roedd ganddo lyfryddiaeth yn y cefn a dechreuais weithio fy  ffordd drwyddo. Ffuglen hanesyddol a'r Gothig, y ddau yn bwysig iawn i awduron benywaidd, yw dau o’r  prif feysydd rwyf wedi arbenigo ynddynt ond rwyf hefyd yn gweithio’n gynyddol ar ysgrifennu Saesneg o  Gymru.  Mae fy mhrosiect presennol yn argraffiad o Hunangofiant Margiad Evans ar gyfer Honno – mae’n arbrawf hynod yn yr hyn a alwodd yn ‘earth writing’ – a monograff ar ffuglen hanesyddol
fodernaidd.

Beth mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ei olygu i chi?

Mae’n gyfle i ddathlu’r hyn rydym wedi’i gyflawni. Ond mae hefyd yn gyfle i bwyso a mesur ac i feddwl
am yr holl waith sydd eto i'w wneud. Nid yw cynnydd byth yn syml. Mae’r foment yn The Handmaid’s
Tale, Margaret Atwood, lle mae’r merched yn darganfod nad yw eu cardiau banc yn gweithio bellach yn
fy mhoeni i – mae’n a nodyn atgoffa buddiol y gall pethau ddadwneud eu hunain yn gyflymach nag y
mae rhywun yn ei ddisgwyl.

Sut mae ysgrifennu menywod wedi newid dros y blynyddoedd?

Mae mwy o amrywiaeth ac, efallai, mwy o hyder. Mae menywod yn ysgrifennu'n wych yn yr holl
wahanol genres ac, yn well fyth, eu cymysgrywio: meddyliwch am The Meat Tree gan Gwyneth Lewis, er
enghraifft, sydd yn ail ysgrifennu stori Blodeuwedd o'r Mabinogi fel rhyw fath o ffuglen wyddonol
chwedlonol antur. Neu Girl Woman Other, gan Bernardine Everisto, cyfres o storïau byrion â
chysylltiadau clyfar sy’n creu nofel. Neu Fun Home, cofiant graffig comig-drasig a arsylwyd yn llym gan
 Alison Bechdel.

Ydych chi wedi gweld gwahaniaethau yn y ffordd y mae menywod yn cael eu cynrychioli (cyfryngau, diwylliant ac ati) ers dod yn academydd?


Ydw, yn fawr iawn felly. Rydyn ni wedi cael dau Fardd Cenedlaethol benywaidd yng Nghymru – Gwyneth Lewis ac yna Gillian Clarke. Mae Llywodraeth Cymru yn gyson wedi cael cyfran uchel o AC/AS benywaidd (mae’n 47% ar hyn o bryd). Yn PDC roedd gennym ni Is-Ganghellor benywaidd – y cyntaf yng Nghymru – ers dros ddegawd, Y Fonesig Julie Lydon yw hi nawr. Mae'r gwelededd hwnnw'n wirioneddol bwysig. Ond nid yw'n golygu bod popeth yn obeithiol. Mae angen mynd i’r afael â phroblemau mawr o hyd – y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, trais yn erbyn menywod, y nifer warthus o isel o athrawon benywaidd Du (dim ond 1% o athrawon yn y DU sy’n Ddu), a darpariaeth gofal plant i enwi dim ond pedwar. Mae COVID-19 wedi gwaethygu llawer o anghydraddoldebau. Roedd yn drawiadol pa mor amlwg oedd problem gofal plant pan oeddem yn gweithio gartref a gallem weld cydweithwyr yn jyglo cyfarfodydd Teams gyda phlant yn gofyn am help gyda gwaith cartref. Dylai hon fod yn foment dda i edrych eto ar rai o’r mathau hynny o faterion a meddwl sut y gallwn wneud yn well.