
Prif ddiddordeb ymchwil Rachel Lock Lewis yw hanes ffeministiaeth ym Mhrydain ar ôl y rhyfel ac mae hi ar hyn o bryd yn ymchwilio i Fudiad Rhyddid y Merched yn Ne Cymru. Mae ei chyhoeddiadau blaenorol wedi canolbwyntio ar rhywedd a newid cymdeithasol ym Mhrydain ar ôl y rhyfel, yn enwedig mewn perthynas â rhywioldeb, priodas, mamolaeth, rhianta a phlentyndod, a pherthynas. Mae Rachel yn gyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Astudiaethau Rhywedd yng Nghymru.