27-01-2022
Wedi ei ffurfio ym 1974 gan grŵp o fenywod wnaeth cwrdd mewn cynhadledd, nod Cymdeithas Hawliau Menywod Cymru oedd ‘amlygu a gweithredu ar faterion sy’n effeithio ar hawliau menywod’. Roedd y mudiad yn gweithredu fel carfan bwyso a ffynhonnell gwybodaeth ar ystod o achosion ffeministaidd gan gynnwys hawliau gwaith, hawliau atgenhedlol, mynediad i wasanaethau cyhoeddus, trais yn erbyn menywod, ac roedd yn rhagflaenydd i Gynulliad Menywod Cymru sydd wedi ei achredu gan y Cenhedloedd Unedig.
Yn y sgwrs yma bydd Dr Rachel Lock-Lewis yn ymchwilio i ffurfio, twf a chyraeddiadau'r grŵp ymgyrchu yma, sydd hyd at hyn heb ei llawn ddathlu, ac a ddisgrifiwyd yn 1979 fel ‘y corff mwyaf gweithgar dros yng Nghymru dros gyfleoedd cyfartal’.
Mae Dr Rachel Lock-Lewis yn Uwch Ddarlithydd yn Hanes ym Mhrifysgol De Cymru ac yn Gyd-Gyfarfwyddwr Canolfan Astudiaethau Rhyw yng Nghymru Prifysgol De Cymru.
Nodwch bydd y digwyddiad yma yn cael ei chynnal ar-lein drwy Microsoft Teams. Bydd gofyn i chi lawrlwytho app Teams i'ch dyfais o flaen llaw.
Bydd linc yn cael ei ddanfon atoch cyn y digwyddiad. Drwy gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, rydych yn cadarnhau eich bod yn fodlon inni ddanfon gohebiaeth e-bost atoch mewn perthynas â'r digwyddiad yma yn unig. Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei storio na’i ddefnyddio at unrhyw ddiben arall.
15-02-2023
09-02-2023
10-02-2022
27-01-2022
17-09-2021
22-02-2021
11-02-2021
09-10-2019
08-10-2019