10-02-2022
Ar gyfer Mis Hanes LGBTQ+ 2022, mae Canolfan Astudiaethau Rhywedd yng Nghymru PDC yn eich gwahodd i berfformiad ar-lein Queer Tales from Wales yn cyflwyno:
Ganed Amy Dillwyn yn Abertawe yn 1845 yn tomboi, a threuliodd flynyddoedd lawer yn chwilio am fodolaeth ystyrlon. Mae'r cyflwyniad bywiog hwn yn archwilio ei bywyd: sut y daeth yn nofelydd llwyddiannus ac yn ddiwydiannwr oedd yn ysmygu sigarau, yn sefyll am swydd gyhoeddus ac yn sefyll dros hawliau menywod. Daeth Amy yn ffigwr enwog yn Ne Cymru. Ond ni anghofiodd erioed ei hunig wir gariad - y ferch na fyddai'n ei charu'n ôl.
Ysgrifennwyd, ymchwiliwyd a adroddwyd gan Jane Hoy, gyda Helen Sandler fel Miss Dillwyn.
1pm Dydd Mercher, 23 Chwefror 2022
Mae'r digwyddiad ar-lein hwn am ddim. Croeso i bawb. Archebwch yma i dderbyn dolen i’r digwyddiad.
Mae QTW, cwmni microtheatr wedi'i leoli ger Machynlleth, yn adrodd straeon am amrywiaeth o gymeriadau cwiar o hanes Cymru: www.aberration.org.uk/queer-tales-from-wales
Y cyflwynwyr yw Jane Hoy a Helen Sandler, sydd hefyd yn gyd-raglennwyr (gyda Ruth Fowler) o Aberration – digwyddiadau diwylliannol LGBTQ+ yng nghanolbarth Cymru.
Cynhelir 9fed rhaglen Mis Hanes LGBTQ+ Aberration ddydd Sadwrn 26 Mawrth yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Tocynnau ar werth yn fuan: www.aberystwythartscentre.co.uk
15-02-2023
09-02-2023
10-02-2022
27-01-2022
17-09-2021
22-02-2021
11-02-2021
09-10-2019
08-10-2019