11-02-2021
Dr Sarah Crews, Uwch-ddarlithydd, Perfformiad a’r Cyfryngau, PDC, Cyfadran y Diwydiannau Creadigol
(hi) @USW_PerfMedia
Mae’r anerchiad hwn yn canolbwyntio ar statws diwylliannol cyrff bocsio benywaidd, gan dynnu sylw i briodweddau materol, fel gwaed, fel modd o darfu ar ddeuaidd rhywedd a siglo naratifau trechaf am sut dylai corff benywaidd fod.
Mae Dr Sarah Crews yn Uwch-ddarlithydd Perfformiad a’r Cyfryngau ym Mhrifysgol De Cymru. Mae ymchwil Sarah wedi’i lleoli yn y croesffyrdd rhwng astudiaethau perfformio, bocsio a diwylliant corfforol. Yn ddiweddar, bu Sarah yn gydawdur y monograff Boxing and Performance: Memetic Hauntings (2020).
Gareth Pahl, Myfyriwr Drama MA PDC ac Artist, Cyfadran y Diwydiannau Creadigol
(ef/nhw) @erniesparkles @iheartfflamingo
Mae’r anerchiad hwn yn canolbwyntio ar brosiect celfyddydau cynhwysol, cymhwysol a archwiliodd hunanddelwedd a hunan-barch ymhlith oedolion ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth trwy berfformiad drag. Mae Gareth yn rhannu’i fyfyrdodau ar y potensial grymus am drawsnewidiadau personol a chymdeithasol mewn drag.
Mae Gareth yn hen law ar berfformio cabaret, gan arbenigo ar berfformiad drag a’r syrcas, a chyn hir bydd yn graddio â gradd MA mewn Drama o PDC. Ac yntau’n gyd-sylfaenydd y Sparklettes, Fflamingo a The House of Deviants, mae Gareth wedi perfformio mewn cabaret, digwyddiadau a gwyliau (ac mewn ystafelloedd zoom digidol) ar draws y DU ers sawl blwyddyn, gan ddefnyddio’i enw llwyfan, Ernie Sparkles.
Dr Stewart Ayres, Deon Cyfadran Cyfrifiadureg, Peirianneg a Gwyddoniaeth PDC
ef @astrostewey
Yn y rhan fwyaf o ddisgyblaethau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg), caiff hunaniaeth yr ymchwiliwr neu’r ymarferwr unigol ei esgeuluso bron yn llwyr a chaiff pobl LHDT+ eu hanfanteisio a’u heithrio’n anghymesur gan y diwylliannau amlycaf. Bydd y cyflwyniad hwn yn edrych ar ychydig o’r dystiolaeth o ragfarn ac yn siarad am fentrau i godi ymwybyddiaeth o ganlyniadau rhagfarn, a chefnogi pobl LHDT+ a chynghreiriad sy’n gweithio ym maes STEM.
Dr Stewart Eyres yw’r Deon Cyfrifiadureg, Peirianneg a Gwyddoniaeth, gyda chefndir ymchwil ym maes Seryddiaeth. Yn deillio o ddiddordeb a gweithgarwch hirsefydledig ym maes ymgysylltu gan y cyhoedd â gwyddoniaeth, mae wedi cefnogi gwaith i ehangu profiadau a hunaniaeth y bobl hynny sy’n gweithio mewn pynciau STEM. Ei nod yw gwneud y disgyblaethau’n fwy deniadol i ystod ehangach o gyfranogwyr a gwella effaith ymchwil trwy gyflwyno safbwyntiau mwy amrywiol.
Dr Thania Acarón, Darlithydd MA Drama PDC
Seicotherapydd Symudiadau Dawns, Cyfadran y Diwydiannau Creadigol
(hi) @thaniaacaron
Mae’r cyflwyniad hwn yn archwilio achos enghreifftiol o ymchwil gyhoeddedig ar weithdai therapi dawns/symudiadau a chelf cydweithredol gyda chleientiaid LHDT+ yn y gymuned. Bydd yn canolbwyntio ar archwilio thema croen fel rhwystr rhwng agweddau mewnol/allanol ar yr hunan fel maes thematig allweddol ar gyfer gwaith creadigol yn gysylltiedig ag iechyd meddwl.
Mae Dr. Thania Acarón yn ddarlithydd yn PDC, yn seicotherapydd symudiadau dawns, yn berfformiwr ac yn gyfarwyddwr symud. Mae Acarón yn cynnig gweithdai rhyngwladol ar symud ar gyfer lles, gwaith therapiwtig gyda’r gymuned LHDT+, gwneud penderfyniadau ymgorfforedig ac atal trais ac, yn ddiweddar, sefydlodd ei chwmni ei hun yn canolbwyntio ar symud er lles, sef The Body Hotel LTD.
Dr Ruth Gaffney-Rhys, Athro Cyswllt y Gyfraith, Ysgol Busnes De Cymru / Cyfadran y Diwydiannau Creadigol PDC
hi @USW_Law
Mae’r cyflwyniad hwn yn ystyried datblygiad y gyfraith yn gysylltiedig â phartneriaethau sifil yn sgil rhoi Deddf Priodas (Cyplau o’r Un Rhyw) 2013 ar waith. Cyflwynodd y Llywodraeth y ddeddfwriaeth fel mesur cydraddoldeb, ond mewn gwirionedd, crewyd mathau newydd o wahaniaethu ar sail rhywioldeb, a drafodir yn ystod y cyflwyniad.
Mae Dr Ruth Gaffney-Rhys yn Athro Cyswllt yn y Gyfraith, yn Ysgol Busnes De Cymru. Mae hi’n arbenigo ar gyfraith teulu ac, yn benodol, y gyfraith ar briodas a phartneriaethau sifil. Yn aml, mae gan ei hymchwil elfen hawliau dynol ryngwladol ac mae’n ystyried materion gwahaniaethu yn gyson. Mae’n Gyd-Gyfarwyddwr y Ganolfan Astudiaethau Rhyw yng Nghymru.
Bleddyn Harris, Cadeirydd a Golygydd LGBTQYMRU
(ef/nhw) @bleddynharris
I ymateb i gyfnod clo Covid 19, ac yn absenoldeb unrhyw ddigwyddiadau Pride ar-lein eraill i Gymru gyfan, daeth LGBTQYMRU i fodolaeth er mwyn creu Pride Rhithwir cyntaf erioed Cymru gyfan, a bydd bellach yn gartref i gylchgrawn ar-lein LHDT+ dwyieithog cyntaf Cymru, sy’n lansio’i rifyn cyntaf ar 26 Chwefror, i ddathlu Mis Hanes Pobl LHDT+.
Bydd Bleddyn yn sôn am y broses o adeiladu 'Qymuned’, prif elfennau’r cylchgrawn a’r effaith mae’r cylchgrawn yn anelu at ei chael wrth gyfrannu at Gymru fwy amrywiol ac amlddiwylliannol.
Bleddyn Harris yw Sylfaenydd LGBTQYMRU ac mae’n gweithio fel Swyddog Hyfforddiant a Datblygu Sefydliadol i Senedd Cymru. Mae ei waith gweithredu wedi ymddangos ar ITV Wales a BBC Radio Wales. Mae Bleddyn wedi cyflwyno seminarau a darlithoedd ar gynhwysiant LHDTC+ yn y gweithle i ysgolion a sefydliadau fel Stonewall Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ymhlith eraill. Ar hyn o bryd, mae wedi’i enwi ar y Pinc List fel un o 15 Prif I ymateb i gyfnod clo Covid 19, ac yn absenoldeb unrhyw ddigwyddiadau Pride ar-lein eraill i Gymru gyfan, daeth LGBTQYMRU i fodolaeth er mwyn creu Pride Rhithwir cyntaf erioed Cymru gyfan, a bydd bellach yn gartref i gylchgrawn ar-lein LHDT+ dwyieithog cyntaf Cymru, sy’n lansio’i rifyn cyntaf ar 26 Chwefror, i ddathlu Mis Hanes Pobl LHDT+.
15-02-2023
09-02-2023
10-02-2022
27-01-2022
17-09-2021
22-02-2021
11-02-2021
09-10-2019
08-10-2019