Lansiad Ar-lein: Representing the Male

Representing the Male Masculinity, Genre and Social Context in Six South Wales Novels


Mae’r Ganolfan Astudiaethau Rhywedd ym Mhrifysgol De Cymru yn eich gwahodd i ymuno â ni ar gyfer lansiad ar-lein John Perrott Jenkins, Representing the Male: Masculinity, Genre and Social Context in Six South Wales Novels, Cyfres Astudiaethau Rhywedd yng Nghymru, Gwasg Prifysgol Cymru
 
Ar-lein: 7-8pm Dydd Mawrth 5 Hydref 2021
 
Mae'r dadansoddiad arloesol, canfyddiadol a threiddgar hwn o gynrychiolaeth gwrywdod mewn chwe nofel ddiwydiannol allweddol yn ne Cymru yn archwilio awduron fel Gwyn Jones, Ron Berry, Lewis Jones, Menna Gallie, Roger Granelli a Kit Habianic. Gan wahanu stereoteipiau gwrol Cymry fel glowyr, chwaraewyr rygbi, neu gantorion corau meibion, mae'n dangos sut mae gwrywdod, cymaint â benyweidd-dra, wedi'i lunio gan strwythurau pŵer a braint yng nghrwsibl y Cymoedd.
 
Bydd yr awdur Dr John Perrott Jenkins yn ymuno â’r Athro Emeritws Jane Aaron (Prifysgol De Cymru) a Dr Aidan Byrne (Prifysgol Wolverhampton) i drafod y llyfr.  
 
Croeso i bawb. Cofrestrwch ar Eventbrite i dderbyn dolen i ymuno â'r digwyddiad ar-lein hwn yn rhad ac am ddim. Cysylltwch â Diana Wallace.

Am fwy o fanylion: https://www.uwp.co.uk/book/representing-the-male/
 


#gender_cy