15-02-2023
Yn ferch i longwr o bentref pysgota Llangrannog yng Ngheredigion, roedd Sarah Jane Rees o'r 1860au ymlaen yn aml yn cael ei galw'n fenyw ar berwyl. Roedd llawer o'i chyfoedion yn ei gweld fel arloeswr, yn arwain ei chymdeithas, a'i menywod yn arbennig, allan o'r ogofâu tywyll y cawsant eu cadw ynddynt gan ragfarnau rhyw a dosbarth Fictoraidd i oleuni byd mwy egalitaraidd.
Bydd y ddarlith hon yn olrhain cynnydd Cranogwen, drwy ei galwedigaethau amrywiol fel gwniadwraig, llongwr, athro, bardd, darlithydd, teithiwr, traethodydd, golygydd, pregethwr ac arweinydd mudiad menywod, tuag at ddod yn fodel rôl gynnar i Fenyw Newydd Cymru ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Rhoddir sylw arbennig i'w hymdrechion parhaus i ddatgelu a dymchwel y cysyniad o wahaniaeth rhwng y rhywiau fel gwneuthuriad ffug a diystyr.
Dydd Mercher 8 Mawrth, 18:00 – 20.00
Ffug Lys Barn (Moot Court), Tŷ Crawshay
Campws Trefforest
Prifysgol De Cymru
Pontypridd CF37 1DL
Mae'r ddarlith am ddim (ac yn cynnwys derbyniad diodydd) ond cadwch eich lle drwy Eventbrite drwy ddilyn y ddolen. Croeso i bawb.
Mae'r Athro Jane Aaron yn ysgrifennu bywgraffiad diffiniol Cranogwen. Hi yw golygydd cyfres ailargraffiad Gwasg Honno, Welsh Women’s Classics, ac mae hi wedi golygu pum cyfrol ohonynt.
Mae ei monograffau yn cynnwys Nineteenth-Century Women’s Writing in Wales (2007), a enillodd Wobr Roland Mathias 2009, a Welsh Gothic (2013). Roedd hi'n gyd-sylfaenydd cyfres Gwasg Prifysgol Cymru Gender Studies in Wales.
Noddir Darlith Goffa Ursula Masson gan Archif Menywod Cymru/ Women’s Archive Wales.
15-02-2023
09-02-2023
10-02-2022
27-01-2022
17-09-2021
22-02-2021
11-02-2021
09-10-2019
08-10-2019