22-02-2021
Bydd Gaynor yn trafod ei barn ar ymdrechion i wneud iawn am y ffordd gamarweiniol mae hanesion poblogaeth Ddu a lleiafrifoedd ethnig Cymru wedi eu cofnodi, a’r hyn y gallai’r ymdrechion hynny ei olygu. Bydd yn defnyddio profiadau ei bywyd ei hun a ‘straeon’ hanes llafar pobl sy’n byw yn Butetown. Bydd Gaynor yn trafod, gyda’r gynulleidfa, bwysigrwydd creu lle a distawrwydd fel bod lleisiau eraill yn gallu cael eu clywed, a gweithio gyda ac ar gyfer pobl sydd ar goll o naratifau bywyd Cymru.
Mae’r ddarlith ar-lein hon am ddim. Croeso i bawb. Cliciwch yma i gadw lle a derbyn dolen i’r digwyddiad.
Noddir gan Archif Menywod Cymru.
Gaynor Legall yw Cadeirydd Y Gyfnewidfa Treftadaeth a Diwylliant, sefydliad cymunedol sy'n croniclo treftadaeth ac amrywiaeth ddiwylliannol Tiger Bay a Dociau Caerdydd. Ar hyn o bryd mae’n arwain grŵp gorchwyl a gorffen Llywodraeth Cymru sy’n cynnal archwiliad o henebion cyhoeddus, ac enwau strydoedd ac adeiladau, yn gysylltiedig ag agweddau ar hanes Du Cymru.
Wedi'i geni a'i magu yn Butetown, Caerdydd, mae Gaynor yn eiriolwr pwerus dros fenywod o leiafrifoedd ethnig ledled Cymru. Yn hynod falch o'i gwreiddiau yn Tiger Bay, mae hi wedi gweithio fel Nyrs Feithrin, Nyrs Gofrestredig, gweithiwr cymdeithasol ac mewn swyddi rheoli uwch. Roedd Gaynor yn un o sylfaenwyr grŵp Gwrth-apartheid Cymru a hi oedd y person du cyntaf i'w hethol yn Gynghorydd Dinas yng Nghymru. Mae hi wedi gweithio gyda phobl o'r un anian i sefydlu nifer o sefydliadau gwirfoddol fel FullEmploy Wales, AWETU, a BAWSO, y sefydliad trais domestig Du cyntaf yng Nghymru. Dyfarnwyd gwobr Cyflawniad Oes i Gaynor gan Gymdeithas Cyflawniad Menywod o Leiafrifoedd Ethnig Cymru.
15-02-2023
09-02-2023
10-02-2022
27-01-2022
17-09-2021
22-02-2021
11-02-2021
09-10-2019
08-10-2019