Pan gynhaliwyd Cynhadledd Genedlaethol gyntaf Cymru ar Ryddhad Merched yn Aberystwyth ym mis Gorffennaf 1974, nid oedd unrhyw lochesau Cymorth i Fenywod yng Nghymru, dim Canolfannau Argyfwng Treisio, roedd menywod a oedd yn gweithio mewn diwydiant a’r proffesiynau’n ennill, ar gyfartaledd, tua hanner yr hyn yr oedd dynion yn ei ennill, dim ond ychydig iawn o lenyddiaeth merched a gyhoeddwyd, ac nid oedd termau fel 'rhywiaeth' ac 'aflonyddu rhywiol' yn gyffredin eto.
Roedd deddfwriaeth i wneud gwahaniaethu ar sail rhyw ym meysydd addysg, cyflogaeth a mynediad at wasanaethau cyhoeddus yn anghyfreithlon eto i ddod (er yn fuan, ym 1975), yn ogystal ag amddiffyniad cyfreithiol i fenywod beichiog rhag cael eu diswyddo o’u swyddi a chael yr hawl i ddychwelyd i’w swyddi ar ôl cyfnod (er yn fach) o absenoldeb mamolaeth.
Wedi’u camddeall a’u beirniadu’n aml, fe frwydrodd y Mudiad Rhyddhad Merched ei ffordd i fodolaeth yng Nghymru er bod y llwybr yn frith o rwystrau; bu’n rhaid rhoi’r gorau i gynhadledd a drefnwyd ar gyfer Caerfyrddin yn 1975 oherwydd, fel yr adroddwyd mewn cylchlythyr, ‘the village balked at the idea of being overwhelmed by bra-burning man-hating feminists or something, so they were refused the village hall’! Ond beth oedd amcanion y mudiad a beth wnaeth ei aelodau wrth geisio cyflawni'r amcanion hyn? Beth wnaethon nhw ei gyflawni? Pa fodd y derbyniwyd y mudiad yn Ne Cymru? Dyma gwestiynau y mae ymchwil gyfredol Dr Rachel Lock-Lewis yn ceisio eu hateb.
Yn arwyddocaol, chwaraeodd Prifysgol De Cymru, yn ei chydrannau blaenorol, ran yn hanes y Mudiad Rhyddhad Merched. Cynhaliodd Undeb y Myfyrwyr yng Nghasnewydd (fel rhan o Goleg Addysg Uwch Gwent) ddigwyddiad o'r enw ‘Women’s Liberation and Socialism: A Welsh Regional Socialist Feminist Conference’ ar 24 Mehefin 1978, cyn i Goleg Polytechnig Cymru Trefforest gynnal ysgol penwythnos ar gyfer Grŵp Argyfwng Trais De Cymru i drafod sefydlu Canolfan Argyfwng Trais yn Hydref 1978.
Mae'r sefydliad hefyd wedi chwarae rhan allweddol yn yr astudiaeth o hanes y mudiad merched yng Nghymru gan gynnal, er enghraifft, cynhadledd hanes, ‘Working Class Women: The Welsh Experience Past and Present 1983’ yng Ngholeg Polytechnig Cymru Trefforest ar 8fed-10fed Ebrill, 1983. Dim ond oherwydd arbenigedd pynciol, penderfyniad a gwaith caled cyn gydweithwyr yn yr adran Hanes, Dr Ursula Masson a’r Athro Deirdre Beddoe, y bu llawer o hyn yn bosibl. Mae'r prosiect ymchwil hwn yn ceisio parhau â'u gwaith a'u hetifeddiaeth.