Mae'n briodol, felly, fod y Ddarlith Goffa yn cael ei rhoi yn ei hanrhydedd ar ddiwrnod rhyngwladol y menywod.
Yn ei hanes o salwch ymhlith merched a menywod, ysgrifennodd Elinor Cleghorn: 'Ers canrifoedd, mae meddygaeth wedi honni bod menywod, a'u bywydau, yn cael eu diffinio gan eu cyrff a'u bioleg. Ond dydyn ni erioed wedi cael ein parchu ddigon i adrodd am yr hyn sydd wedi digwydd, yr hyn sy'n digwydd i'n cyrff'. Mae’n amlwg bod afiechydon sy'n effeithio ar fenywod mwy nag ar ddynion yn cael eu trin yn annigonol. Mae ffigurau diweddar wedi dangos bod canlyniadau’n waeth i fenywod y mae llawfeddygon gwrywaidd wedi eu trin. Maen nhw’n waeth hefyd pan mai llawfeddygon benywaidd sydd wedi eu trin hyd yn oed, er i raddau llai.
Rwy'n gwella o salwch cronig difrifol a chwalodd fy ymdeimlad o hunan ac amser yn fy nghorff, cyn, wedyn, ei ail-lunio. Mae barddoniaeth yn gelfyddyd sy'n seiliedig ar amser ac, yn y sgwrs hon, rwyf am archwilio'r cysylltiadau anuniongyrchol rhwng lles a chelf, fel y maen nhw wedi teimlo i fi yn ystod y frwydr i ddychwelyd i'r byd. Cyfrif personol yw hwn a byddaf yn darllen cerddi newydd i ddarlunio fy mhrofiadau.
Manylion y digwyddiad
Nos
Mawrth 8 Mawrth 2022
18:00 – 20.00
Mae’r ddarlith ar-lein hon am ddim. Croeso i bawb.
Cliciwch yma i gadwlle a derbyn dolen i’r digwyddiad.
Noddir gan Archif Menywod Cymru.
Ynglŷn â Gwyneth Lewis
Gwyneth Lewis oedd Bardd Cenedlaethol Cymru yn 2005-06. Hi gyfansoddodd y geiriau dwyieithog ar flaen Canolfan Mileniwm Cymru. Mae hi'n fardd arobryn. Ei chasgliad diweddaraf yw Sparrow Tree (Bloodaxe Books). Mae wedi cyhoeddi un deg saith o lyfrau barddoniaeth, ffeithiol a, gyda Rowan Williams, gyfieithiad o Lyfr Taliesin (Penguin Classics). Dyfarnwyd Gwobr Cholmondely i Gwyneth gan Gymdeithas yr Awduron yn 2010. Mae'n awdur ac yn athro llawrydd a bu’n gymrodor mewn sawl prifysgol yn yr Unol Daleithiau. Mae wedi dysgu ym Mhrifysgol Princeton yn yr UD, ac mae'n aelod cyfadran o Bread Loaf School of English Coleg Middlebury yn Vermont . Yn 2016, hi oedd deiliad Cadair Robert Frost mewn Llenyddiaeth yno.