Rhwydwaith a sefydlwyd gan fenywod ac ar gyfer menywod yw’r Rhwydwaith Menywod mewn Academia. Nod y rhwydwaith yw codi proffil materion rhyw ar gyfer academyddion benywaidd yn ein sefydliad, er mwyn mynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu academyddion benywaidd; ac i hwyluso perthnasoedd cefnogol rhwng academyddion benywaidd a darparu amgylchedd diogel ar gyfer rhannu problemau yn ogystal ag arfer gorau.
Canolfan Adrodd Storïau George Ewart Evans (GEECS) yw’r ganolfan ymchwil academaidd gyntaf yn y DU sy’n ymroi i astudio adrodd storïau a’i gymwysiadau. Credwn fod adrodd storïau yn creu gwell dealltwriaeth rhwng unigolion a chymunedau ar draws cymdeithas. Mae ein harbenigedd yn cynnwys adrodd storïau digidol, celfyddydau cymhwysol a chymunedol, astudiaethau llên gwerin, perfformio, hanes llafar ac adrodd storïau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Defnyddiodd Deugain Llais, Deugain Mlynedd gyda Chymorth i Fenywod Cymru, adrodd storïau i effeithio ar bolisi a chanfyddiadau o drais domestig
Mae gan ymchwil Saesneg yn PDC draddodiad hir o arbenigedd mewn rhywedd ac ysgrifennu menywod, gyda chryfderau arbennig mewn ysgrifennu menywod o Gymru ac amdani.
Ailgyhoeddi Clasuron Menywod Cymru gyda Honno
Mae’r Uned Ymchwil Hanes yn cynnal ymchwil dros gyfnod hir, o Gymru’r Oes Haearn i’r byd Mwslemaidd cyfoes, ac rydym yn ymdrin â phynciau mor amrywiol â choffau’r meirw yn y canol oesoedd, caethwasiaeth yr Iwerydd a hanes cyrchfannau glan môr.
Archwilio hanes Greenham Common
Mae’r Ganolfan Astudio’r Cyfryngau a Diwylliant mewn Cenhedloedd Bach yn cydlynu ymchwil ar y diwydiannau creadigol yng Nghymru drwy ffrâm cenhedloedd bach yn fyd-eang. Mae wedi’i lleoli yn y Gyfadran Diwydiannau Creadigol, ond mae’n gweithredu ar draws Prifysgol De Cymru.
Mae ymchwil y Ganolfan wedi helpu i lywio trafodaeth gyhoeddus am y diwydiannau creadigol yng Nghymru a’u cyfraniad artistig, cymdeithasol ac economaidd i fywyd dinesig y genedl.
Mae Archif Menywod Cymru/Women’s Archive of Wales yn hyrwyddo’r gydnabyddiaeth i fenywod yn hanes Cymru a chadwraeth ffynonellau hanes menywod yng Nghymru. Fe’i sefydlwyd ym 1997 o ganlyniad i waith ymchwil gan Ursula Masson ac Avril Rolph ym Mhrifysgol Morgannwg ar y pryd (PDC/USW bellach), i hanes y Mudiad Rhyddhau Menywod. Roedd eu gwaith yn dangos yr angen i gasglu a chadw cofnodion o hanes menywod. Mae gan AMC/WAW gysylltiad hir a gwerthfawr â'r Ganolfan ac mae wedi noddi darlith Goffa Ursula Masson flynyddol yn hael ers ei sefydlu.
Casglu archifau: Ann Jones, Aelod o’r Senedd a’r Dirprwy Lywydd yn trosglwyddo ei harchif i Dr Chris Chapman a Catrin Stevens (WAW) fel rhan o’r prosiect ‘Gwir Gofnod o Gyfnod’, prosiect i ddiogelu cofnodion a lleisiau menywod yng ngwleidyddiaeth Cymru, 2019
10-02-2022
27-01-2022
17-09-2021
22-02-2021
11-02-2021